Beth yw firws syncytaidd anadlol (FSA neu yn saesneg RSV- respiratory syncytial virus)?
Description
FSA (feirws syncytaidd anadlol) yw un o'r firysau mwyaf cyffredin sy'n achosi peswch ac annwyd. Mae'n cylchredeg yn eang yn y DU yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf, gan gyrraedd ei uchafbwynt ym mis Rhagfyr. Mae bron pob plentyn wedi'i heintio â'r firws erbyn ei fod yn ddwy flwydd oed.
Gall FSA achosi peswch neu annwyd mewn plant ac oedolion, ond mewn plant ifanc dyma brif achos bronciolitis. Mewn gwirionedd, dyma achos mwyaf cyffredin bronciolitis mewn plant o dan ddwy oed.
Yn y bennod hon, mae ein harweinydd iechyd Amanda yn esbonio sut i adnabod arwyddion FSA a beth allwch chi ei wneud i'w lleddfu, gan gynnwys pryd i gael cyngor gan eich meddyg neu help gan y gwasanaethau brys.
Nodyn: Mae’r recordiad hwn yn gyfieithiad o drawsgrifiad Amanda i’r Gymraeg, wedi’i ddarllen gan ein Cydlynydd Gwybodaeth a Rhwydwaith Cymru, Dylan.