Episodes
Ai Owain Glyndŵr yw'r Cymro enwocaf erioed? Be oedd sbardun ei wrthryfela? Beth wnaeth ddigwydd i'w deulu?
Ymunwch â Tudur Owen a Dyl Mei ym mhennod olaf Dim Rŵan Na Nawr.
Published 12/13/19
Yn y pumed bennod, cyfle i glywed am oes y Tywysogion yng nghwmni Tudur Owen, Dyl Mei a Dr Sara Elin Roberts.
Published 12/06/19
Dr Rebecca Thomas a Dr Owain Jones o Brifysgol Bangor sy'n ymuno gyda Tudur a Dyl i drafod yr Oesoedd Tywyll. Ydy Tudur yn gywir i ddefnyddio'r term? Pwy oedd yn ymosod ar Gymru ar y cyfnod "tywyll" yma? Oedd 'na lonydd i'w gael i'r Cymry? Oedd na'r fath beth a Chymru, neu Gymry, ar y pryd?!
Published 11/29/19
Pwy oedd y Rhufeiniaid gyntaf yng Nghymru? Faint o hir nath y nhw aros? Pam oedd y nhw yma?
Cewch yr atebion yma i gyd yng nghwmni Dewi Prysor ar y 3ydd pennod o Dim rwan na nawr!
Published 11/22/19
Dr Euryn Roberts a Dr Owain Jones sy'n (ceisio) tywys Tudur a Dyl Mei drwy Oes y Celtiaid
Published 11/15/19
Tudur Owen a Dyl Mei sy’n dysgu am hanes Cymru, un cwestiwn chwilfrydig ar y tro. Yn y bennod gyntaf mae’r ddau yn mynd yr holl ffordd yn ôl i oes yr iâ. Pryd gafodd tir Cymru ei ffurfio am y tro cyntaf?
Published 11/08/19
Tudur Owen a Dyl Mei sy’n ein tywys drwy hanes Cymru, un cwestiwn ar y tro...
Published 11/07/19