2. Rhyddid i Addoli
Listen now
Description
Rowan Williams cyn Archesgob Cymru a Chaergaint yn traddodi ei ddarlith Reith i'r BBC yn y Gymraeg gan drafod ffydd a rhyddid. Yn ôl yr Arglwydd Acton, yr awdur ar ryddid o'r 19 ganrif a ddyfynnir yn y ddarlith, rhyddid crefyddol yw sail pob rhyddid gwleidyddol. Mae Rowan Williams yn cymhwyso hyn yng nghyd destun De Affrica, y gwrthdaro yn y ddadl gyfoes am erthylu ac amryw bynciau eraill. Dadleuir fod rhyddid i addoli yn gorfod cynnwys y rhyddid i fynegi argyhoeddiadau yn ogystal a'r rhyddid i gyd-gyfarfod. Recordiwyd y fersiwn Saesneg o'r ddarlith a sesiwn cwestiwn ac ateb o flaen cynulleidfa ym Mhrifysgol Abertawe gydag Anita Anand yn cyflwyno. Cyflwynir y ddarlith yn y Gymraeg gan John Roberts. Araith yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn 1941 ar y pedwar rhyddid yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer darlithoedd Reith 2022 gan holi pa mor hanfodol yw'r pedwar rhyddid heddiw. Traddodir pedair darlithydd yn Saesneg. Darlith Rowan Williams yn unig sydd wedi ei recordio yn y Gymraeg. Trafodir: Rhyddid i lefaru gan Chimamanda Ngozi Adichie, Rhyddid i addoli gan Rowan Williams, Rhyddid rhag angen gan Darren McGarvey, Rhyddid rhag ofn gan Fiona Hill. Cynhyrchydd y gyfres: Jim Frank Cynhyrchydd y fersiwn Gymraeg: John Roberts (Cwmni Tonnau Cyf.) Peirianwyr sain: Rod Farquhar, Neil Churchill a Gareth Turrell Cydlynydd cynhyrchu: Brenda Brown Golygydd: Hugh Levinson
More Episodes
Deepfakes, distrust and democracy: Billions of people will have the chance to vote this year in elections around the world. There will be campaigns in eight of the 10 most populous countries, including India and the Biden/Trump race for the White House in the US. Given the stakes, the chance for...
Published 01/09/24
This year's BBC Reith Lecturer is Ben Ansell, Professor of Comparative Democratic Institutions at Nuffield College, Oxford University and author of “Why Politics Fails.” In four lectures called “Our Democratic Future,” he asks how we can build a politics that works for all of us with political...
Published 12/20/23
This year's BBC Reith Lecturer is Ben Ansell, Professor of Comparative Democratic Institutions at Nuffield College, Oxford University and the author of "Why Politics Fails." He will deliver four lectures in a series called “Our Democratic Future.” The series asks how we can build a politics...
Published 12/13/23