Episodes
Cyfarwyddwr y gyfres hynod boblogaidd 'Heartstopper', Euros Lyn (fe) yw gwestai'r bennod hon. Caiff Iestyn a Meilir gyfle i'w holi am y lwyddiant y gyfres ac arwyddocâd y llwyddiant hwnnw, ei brofiadau ef tra'n ei arddegau a pha brosiectau eraill cyffrous sydd ganddo ar y gweill.
Published 01/15/24
Published 01/15/24
Y gantores a’r gyflwynwraig Miriam Isaac (hi) sy’n cadw cwmni i Iestyn a Meilir yn y bennod hon, ddyddiau ar ôl iddi rannu ei bod yn ddeurywiol ar lwyfan Cabarela. Cawn glywed am yr holl stereoteipio mae rhywun deurywiol yn dal i ddioddef, gan ofyn y cwestiwn, “ydyn ni fel cymuned LHDTC+ yr un mor euog o leihau profiad bywyd pobl deurywiol?”
Published 01/08/24
Y cyflwynydd Mirain Iwerydd (hi) sy'n sgwrsio efo Iestyn a Meilir yn y bennod hon, gan drafod ei brwdfrydedd tuag at ffasiwn a dillad lliwgar. Cawn glywed hefyd am ei chyfraniad i'r raglen deledu 'Ymbarél', agweddau cefn gwlad tuag at y gymuned ac ymateb ei theulu i'w hunaniaeth hi.
Published 01/01/24
Sylfaenydd siop lyfrau Paned o Gê, Daniel Huw Bowen (fe) yw gwestai'r bennod hon. Yn ogystal â sgwrs am gynrychiolaeth o fewn y diwydiant llenyddol Cymraeg, caiff Iestyn, Meilir a Daniel drafodaeth am berthnasau polyamorous a'r diffyg cydnabyddiaeth cyfreithiol a gwelededd o berthnasau amrywiol.
Published 12/18/23
Yr archifydd Sara Huws (hi) yw gwestai'r bennod hon. Yn ogystal â'i gwaith o ddydd i ddydd, mae gan Sara nifer o ddiddordebau sy'n amrywio o nofio dŵr gwyllt, crosio a chodi pwysau. Yn y sgwrs ddifyr hon, cawn glywed farn Sara am effaith cyfreithiau protestio newydd ar ddathliadau Balchder a sut mae'r gymuned wedi addasu er y cyfnod clô.
Published 12/11/23
Mae gwestai brenhinol yn cadw cwmni i Iestyn a Meilir y bennod hon, sef y frenhines drag Serenity (hi/nhw) neu Chris Jones (fe) allan o drag. Cawn glywed am ysbrydoliaeth Serenity, ei balchder o'i hardal enedigol a pham ei bod wedi penderfynu aros yn ei milltir sgwar. Gyda phoblogrwydd drag ar ei uchaf erioed, pam fod cymaint o bobl yn ymddiddori yn y grefft?
Published 12/04/23
Ar drothwy ei sioe stand-up gyntaf yng Ngŵyl Fringe Caeredin, Priya Hall (hi) sy'n ymuno ag Iestyn a Meilir y bennod hon i rannu pam y dewisodd yrfa ym myd comedi a pha mor gynhwysol yw'r diwydiant stand-up. Hefyd, cawn glywed am brofiadau Priya a'i phartner wrth iddynt baratoi i ddechrau teulu, fel cwpwl cwiar, a'r rhwystrau y maent wedi eu hwynebu.
Published 11/27/23
Tybed beth ddenodd Mike Parker (fo/fe) o Loegr i Fachynlleth? Yr awdur a'r cyn-wleidydd sy'n gwmni i Iestyn a Meilir y tro yma a chawn glywed pam fod Cymru mor agos at ei galon, pam y mentrodd i fyd gwleidyddiaeth a'r ysbrydoliaeth i'w lyfr hynod lwyddiannus, 'On the Red Hill'.
Published 11/20/23
Na, nid gwrach ond swynwraig yw gwestai'r podlediad y bennod hon. Mhara Starling (hi) sy’n bwrw’i swyn dros Iestyn a Meilir wrth drafod dylanwad llên gwerin Cymraeg ar ei bywoliaeth heddiw a sut wnaeth y dylanwad hwnnw ail-gynnau ei balchder yn ei Chymreictod.
Published 11/13/23
Yn y bennod hon, aiff Gruff (nhw) â ni ar eu taith o ddod i adnabod eu hunain fel person anneuaidd ac o rannu’r daith honno gyda rheiny sydd agosaf atynt, o gyd-aelodau’r band Swnami i’w teulu a’u teulu estynedig. Cawn glywed am ysbrydoliaeth y gân 'Be Bynnag Fydd' ac arwyddocâd y geiriau "rhwng dwy lan ond heb ddeall pam, yn perthyn i ddim" yn ogystal â gofyn y cwestiwn "sut mae modd holi am hunaniaethau traws ac anneuaidd heb sarhau neu ymyryd"?
Published 11/06/23
Da ni’n plymio i fyd sgwennu ffuglen ffantasïol yn y bennod hon efo’r awdur, dramodydd a'r bardd Nia Morais (hi) gan drafod pŵer adrodd straeon. Ar gychwyn ei swydd newydd fel Bardd Plant Cymru, cawn glywed uchelgeisiau Nia am ei chyfnod yn y rôl wrth iddi fynd ati i ddatgloi creadigrwydd plant Cymru.
Published 10/30/23
Mae Esgusodwch Fi yn ôl! Yn ymuno ag Iestyn a Meilir ym mhennod gyntaf yr ail gyfres, mae Jeremy Miles (fo/fe), Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru. Fe glywn am brofiadau ffurfiannol ei fagwraeth ym Mhontarddulais a dylanwad hynny ar ei waith fel gwleidydd. Yn y sgwrs ddadlennol yma mae'n rhannu sut mae ei hunaniaeth a'i rywioldeb wedi cyfrannu at ei waith fel gwleidydd a'i obeithion a'i bryderon at y dyfodol.
Published 10/23/23
A hithau'n bennod olaf y gyfres yma o'r podlediad, roedden ni eisiau trafod pwnc ychydig bach fwy arwyddocaol, sef HIV/AIDS. Mae'n afiechyd sydd dal i effeithio nifer o bobl yma yng Nghymru, ac yn ôl ein gwestai ni heddiw sef Uwch Gynghorydd polisi grwp trawsbleidiol HIV/AIDS San Steffan, Mark Lewis, mae yna lot o waith i'w wneud eto i addysgu pobl am yr afiechyd er mwyn rhwystro trosglwyddiadau newydd o'r firws. Os hoffech gymorth neu fwy o wybodaeth am HIV/AIDS yna ewch i wefan y...
Published 07/31/21
Pleser sgwrsio efo dau o gyd-awduron y gyfres lenyddol newydd 'Y Pump' yn y bennod yma, sef Leo Drayton a Maisie Awen. Da ni'n sôn am yr Emmy's, yr ysgol ac yn hel atgofion am ein harddegau. Heb sôn am ysbrydoliaeth ein arwyddgan catchy! Am be da chi'n aros? Pwyswch 'play' ac awê. Iestyn a Meilir :)
Published 07/24/21
O ystyried fod y fabulous Owain Wyn Evans yn ymuno hefo ni'r wythnos yma, mae'r rhagolygon yn darogan y bydd hon yn bennod fendigedig! Da ni'n trafod drymio, reidio motorbeics, bod yn camp a llawer mwy... Rhowch eich eli haul ymlaen a pwyswch 'play'. Iestyn a Meilir :)
Published 07/17/21
Twink, bear 'ta geek? Pa 'tribe' wyt ti? Be ydi 'tribe' hyd yn oed? Wel, mi fyddwn ni'n trafod hyn i gyd a mwy efo'r actor Iestyn Arwel yn y bennod yma. Gan ein bod yn trafod themau aeddfed gydag ambell i ddefnydd o iaith gref, nid yw'r bennod yma yn addas i blant. Mwynhewch! Iestyn a Meilir :)
Published 07/10/21
Yr hyfryd Jalisa Andrews sy'n cadw cwmni i ni yr wythnos yma. Da ni'n cael y cyfle i'w holi am ei magwraeth, ei phlentyndod a'i hunaniaeth deurywiol. Oes yna ragdybiaethau am ddeurywioldeb? Ydyn ni'n euog o anghofio am y 'D' yn LHDTC+? Gwrandewch, myfyriwch a mwynhewch! Iestyn a Meilir :)
Published 07/03/21
O drag i fywyd i ddynion i’r Eisteddfod Genedlaethol. Dyma rai o destunau sgwrs y bennod yma efo’r amryddawn Kristoffer Hughes, sef y person tu ôl i’r frenhines drag ‘da ni i gyd yn ei hadnabod bellach - Maggi Noggi! Rargian, mi chwerthon ni tra’n siarad efo Kristoffer a da ni’n gobeithio y gwnewch chithau wrth wrando hefyd. Iestyn a Meilir :) RHYBUDD: Mae yna iaith gref a themau anaddas i blant yn y bennod yma!
Published 06/26/21
Yn y bennod yma, mi fydd Iestyn yn cael ei gyfweld ar y cyd â’i efaill, Gethin Walker-Lewis. Byddwn yn cael sgyrsiau reit amrwd am deulu, ‘dod allan’ a sut brofiad ydi o i gael brawd sydd hefyd yn hoyw. Mi fyddwn ni hefyd, fel yr arfer, yn trafod newyddion LHDT+ yma yng Nghymru a thu hwnt. Meilir a Iestyn :)
Published 06/19/21
Ma’r TikToker o fri, Ellis Lloyd Jones yn ymuno efo ni yn y bennod yma, i sgwrsio am ei gymeriadau lliwgar, perchnogi pob agwedd o’i hun ac am dynnu selfies yn Bangor. Mwynhewch! Iestyn a Meilir :)
Published 06/12/21
Trafod mis balchder a sgwrs gyda Crash Wigley.
Published 06/05/21
Straeon yr wythnos a sgwrs gyda'r actores, cyflwynydd ac ymgyrchydd Aisha-May Hunte.
Published 05/29/21
Bethan Marlow sy'n cadw cwmni i ni yn y bennod yma, yr holl ffordd o Flordia! Mae hi'n ddramodydd, yn gynhyrchydd theatr ac mae ei hanesion proffesiynol yr un mor ysbrydoledig â'i rhai personol hi. Hefyd, mi fyddwn ni'n trafod llwyth o newyddion LHDTC+ yr wythnos o Gymru a thu hwnt. Mwynhewch! Iestyn a Meilir :)
Published 05/22/21
Sut yn y byd wnaethon ni wasgu cymaint i mewn i un bennod? O’r acronym LHDT+ i etholiad y Senedd, heb anghofio’r ymateb i gân newydd Lil Nas X. Rhowch y tegell 'mlaen, pwyswch ‘play’ ac ymunwch efo ni i fwynhau pennod gyntaf ‘Esgusodwch fi?’ Iestyn a Meilir :)
Published 05/15/21