Mike Parker: Beth sydd mor arbennig am Gymru?
Listen now
Description
Tybed beth ddenodd Mike Parker (fo/fe) o Loegr i Fachynlleth? Yr awdur a'r cyn-wleidydd sy'n gwmni i Iestyn a Meilir y tro yma a chawn glywed pam fod Cymru mor agos at ei galon, pam y mentrodd i fyd gwleidyddiaeth a'r ysbrydoliaeth i'w lyfr hynod lwyddiannus, 'On the Red Hill'.
More Episodes
Cyfarwyddwr y gyfres hynod boblogaidd 'Heartstopper', Euros Lyn (fe) yw gwestai'r bennod hon. Caiff Iestyn a Meilir gyfle i'w holi am y lwyddiant y gyfres ac arwyddocâd y llwyddiant hwnnw, ei brofiadau ef tra'n ei arddegau a pha brosiectau eraill cyffrous sydd ganddo ar y gweill.
Published 01/15/24
Published 01/15/24
Y gantores a’r gyflwynwraig Miriam Isaac (hi) sy’n cadw cwmni i Iestyn a Meilir yn y bennod hon, ddyddiau ar ôl iddi rannu ei bod yn ddeurywiol ar lwyfan Cabarela. Cawn glywed am yr holl stereoteipio mae rhywun deurywiol yn dal i ddioddef, gan ofyn y cwestiwn, “ydyn ni fel cymuned LHDTC+ yr un...
Published 01/08/24