Is this your podcast?
Sign up to track ranks and reviews from Spotify, Apple Podcasts and more
Y Diflaniad
Ar y 14eg o Ragfyr 1953 fe aeth Stanislaw Sykut â cheffyl i'w bedoli ym mhentref bach tawel Cwmdu yn Nyffryn Tywi. Dyna oedd y tro olaf iddo gael ei weld yn fyw. Ar ôl chwilio dyfal, methiant fu'r ymdrech i ddod o hyd iddo yn fyw neu'n farw. Er nad oedd corff wedi ei ddarganfod, wedi misoedd o ymchwilio, fe wnaeth yr Heddlu gyhuddo Michael Onufrejczyk o lofruddiaeth. Ond nid dyna ddiwedd y stori.Yn y podlediad hwn, mae’r newyddiadurwr Ioan Wyn Evans yn ail ymweld â’r achos ac yn ystyried beth arall allai fod wedi digwydd i’r cyn filwr o wlad Pwyl.
Listen now
Ratings & Reviews
5.0 stars from 11 ratings
Recent Episodes
Published 07/06/20
Ym mhennod olaf y podlediad mae Ioan yn teithio i wlad Pwyl i siarad â theulu Stanislaw Sykut. Mae’n cyfarfod Anna Resz, ei ferch, a’n dysgu am effaith ei ddiflaniad ar y teulu. Mae’r teulu wedi gwneud ymchwil eu hunain i’r achos, felly beth yw eu barn nhw am yr hyn ddigwyddodd ‘yng Nghwmdu yn...
Published 07/06/20
Er na chafodd corff Stanislaw Sykut ei ddarganfod, fe ddyfarnwyd Michael Onufrejczyc yn euog o’i lofruddio a chafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond ar yr unfed awr ar ddeg fe’i achubwyd rhag y gosb eithaf. Caiff Ioan glywed gan Megan Sterry, ysgrifenyddes i gyfreithiwr Onufrejczyc ar y pryd, am...
Published 07/06/20
Do you host a podcast?
Track your ranks and reviews from Spotify, Apple Podcasts and more.
See hourly chart positions and more than 30 days of history.
Get Chartable Analytics »