Episodes
Published 07/06/20
Ym mhennod olaf y podlediad mae Ioan yn teithio i wlad Pwyl i siarad â theulu Stanislaw Sykut. Mae’n cyfarfod Anna Resz, ei ferch, a’n dysgu am effaith ei ddiflaniad ar y teulu. Mae’r teulu wedi gwneud ymchwil eu hunain i’r achos, felly beth yw eu barn nhw am yr hyn ddigwyddodd ‘yng Nghwmdu yn 1953? Cawn glywed hefyd am ymweliad olaf Michael Onufrejczyc â fferm Cefn Hendre ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar, ac amgylchiadau rhyfedd ei farwolaeth wedi hynny. Cyflwyno a chynhyrchu:...
Published 07/06/20
Er na chafodd corff Stanislaw Sykut ei ddarganfod, fe ddyfarnwyd Michael Onufrejczyc yn euog o’i lofruddio a chafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond ar yr unfed awr ar ddeg fe’i achubwyd rhag y gosb eithaf. Caiff Ioan glywed gan Megan Sterry, ysgrifenyddes i gyfreithiwr Onufrejczyc ar y pryd, am amgylchiadau rhyfedd galwad ffôn a wnaed i atal ei grogi. Mae Ioan hefyd yn gofyn beth yw arwyddocâd cyfres o ddiflaniadau eraill o’r cyfnod gyda stori Onufrejczyc a Sykut? Cyflwyno a chynhyrchu:...
Published 07/06/20
Oedd diflaniad Stanislaw Sykut yn ymwneud â'r Ail Ryfel Byd? Yn ail bennod y gyfres, cawn glywed mwy am y Pwyliaid ddaeth i Brydain wedi’r Ail Ryfel Byd. Anna Rolewska o Brifysgol Aberystwyth sy’n cyflwyno hanes y teuluoedd ddaeth i Orllewin Cymru i Ioan. Cawn glywed hefyd am brofiad teulu Wieslaw Gdula, wnaeth setlo yn ardal Ffarmers yn y cyfnod. Gwasanaethodd Sykut ac Onufrejczyc yn y fyddin Bwyleg yn ystod y rhyfel, a chaiff Ioan glywed am gysylltiad posib rhwng y cyfnod hwnnw o’u bywyd...
Published 07/06/20
Ar noson o Ragfyr yn 1953 diflannodd un o drigolion pentre’ Cwmdu yn Nyffryn Tywi - Stanislaw Sykut. Dros y misoedd nesa' fe hawliodd y stori benawdau mewn papurau newydd ar draws y byd. Yn y podlediad hwn mae Ioan Wyn Evans yn cyfarfod ag unigolion sydd wedi dilyn yr achos fyth ers hynny. Yn y bennod hon, mae Ioan yn siarad gyda Hywel Jones, sy’n enedigol o’r ardal. Mae ef wedi ei gyfareddu gan stori diflaniad Cwmdu ers yn blentyn. Mewn tafarn leol sydd heb newid llawer ers y cyfnod, mae’n...
Published 07/06/20