Pennod 1
Listen now
Description
Ar noson o Ragfyr yn 1953 diflannodd un o drigolion pentre’ Cwmdu yn Nyffryn Tywi - Stanislaw Sykut. Dros y misoedd nesa' fe hawliodd y stori benawdau mewn papurau newydd ar draws y byd. Yn y podlediad hwn mae Ioan Wyn Evans yn cyfarfod ag unigolion sydd wedi dilyn yr achos fyth ers hynny. Yn y bennod hon, mae Ioan yn siarad gyda Hywel Jones, sy’n enedigol o’r ardal. Mae ef wedi ei gyfareddu gan stori diflaniad Cwmdu ers yn blentyn. Mewn tafarn leol sydd heb newid llawer ers y cyfnod, mae’n rhannu atgofion o’i blentyndod a chysylltiad ei deulu â’r achos. Hefyd mae Ioan yn ail-ymweld â rhaglen radio am yr achos o 1976, gyda chynhyrchydd y rhaglen honno - y newyddiadurwr Handel Jones, sy’n cynnwys cyfweliadau o’r archif gyda heddweision fu’n allweddol i’r ymchwiliad. Heddwas oedd Martin Lewis yn 1953 hefyd, a bu yntau yn gweithio ar yr achos. Bellach yn 92 oed, mae’n rhannu ei atgofion o’i gyfnod yng nghwmni Michael Onufrejczyk a gafodd ei gyhuddo o lofruddio Skyut yn ystod yr ymchwiliad. Yn olaf caiff Ioan sgwrs gydag Eileen Jones a Maureen Crayford, dwy chwaer o Landeilo sydd ag atgofion clir Sykut ac Onufrejczyk. Cyflwyno a chynhyrchu: Ioan Wyn Evans Dylunio a chymysgu sain: Meic Parry Cerddoriaeth thema: Patrick Rimes
More Episodes
Published 07/06/20
Ym mhennod olaf y podlediad mae Ioan yn teithio i wlad Pwyl i siarad â theulu Stanislaw Sykut. Mae’n cyfarfod Anna Resz, ei ferch, a’n dysgu am effaith ei ddiflaniad ar y teulu. Mae’r teulu wedi gwneud ymchwil eu hunain i’r achos, felly beth yw eu barn nhw am yr hyn ddigwyddodd ‘yng Nghwmdu yn...
Published 07/06/20
Er na chafodd corff Stanislaw Sykut ei ddarganfod, fe ddyfarnwyd Michael Onufrejczyc yn euog o’i lofruddio a chafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond ar yr unfed awr ar ddeg fe’i achubwyd rhag y gosb eithaf. Caiff Ioan glywed gan Megan Sterry, ysgrifenyddes i gyfreithiwr Onufrejczyc ar y pryd, am...
Published 07/06/20