Pennod 2
Listen now
Description
Oedd diflaniad Stanislaw Sykut yn ymwneud â'r Ail Ryfel Byd? Yn ail bennod y gyfres, cawn glywed mwy am y Pwyliaid ddaeth i Brydain wedi’r Ail Ryfel Byd. Anna Rolewska o Brifysgol Aberystwyth sy’n cyflwyno hanes y teuluoedd ddaeth i Orllewin Cymru i Ioan. Cawn glywed hefyd am brofiad teulu Wieslaw Gdula, wnaeth setlo yn ardal Ffarmers yn y cyfnod. Gwasanaethodd Sykut ac Onufrejczyc yn y fyddin Bwyleg yn ystod y rhyfel, a chaiff Ioan glywed am gysylltiad posib rhwng y cyfnod hwnnw o’u bywyd â’r achos. Cyflwyno a chynhyrchu: Ioan Wyn Evans Dylunio a chymysgu sain: Meic Parry Cerddoriaeth thema: Patrick Rimes
More Episodes
Published 07/06/20
Ym mhennod olaf y podlediad mae Ioan yn teithio i wlad Pwyl i siarad â theulu Stanislaw Sykut. Mae’n cyfarfod Anna Resz, ei ferch, a’n dysgu am effaith ei ddiflaniad ar y teulu. Mae’r teulu wedi gwneud ymchwil eu hunain i’r achos, felly beth yw eu barn nhw am yr hyn ddigwyddodd ‘yng Nghwmdu yn...
Published 07/06/20
Er na chafodd corff Stanislaw Sykut ei ddarganfod, fe ddyfarnwyd Michael Onufrejczyc yn euog o’i lofruddio a chafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond ar yr unfed awr ar ddeg fe’i achubwyd rhag y gosb eithaf. Caiff Ioan glywed gan Megan Sterry, ysgrifenyddes i gyfreithiwr Onufrejczyc ar y pryd, am...
Published 07/06/20