Pennod 50 - Rhodri Jones
Listen now
Description
Sgwrs gyda Rhodri Jones, the one that got away i bêl-droed Cymru. Ar ôl datblygu fel rhan o academi byd enwog clwb pêl-droed Machester United, daeth ei yrfa i ben yn rhy gynnar o bell ffordd, diolch yn bennaf i benglin dodgy. Ar ôl dioddef effeithiau seicolegol dwys ar ddiwedd ei egin yrfa, erbyn heddiw, mae e’n helpu eraill i ddelio â phroblemau iechyd meddwl. Pynciau llosg: bydis bws, Ysgol y Wern, asiant cyntaf Rhodri, Ysgolion Caerdydd, Norwich City a’r Rhufeiniaid, Ffranc-od, Huw Roberts a Mark Hughes, Joe Cole, Nicky Robinson, ansicrwydd yr arddegau, glanhau esgidiau Ryan Giggs a Gary Neville, bants v bwlio, corfforol v meddyliol, penglin dodgy Rhodri, Jimmy Davies RIP, limbo creulon, Lee Trundle, Rotherham United, unigrwydd, carchar meddyliol, pwysigrwydd siarad, y gwacter, myfyrio, Marcus Aurelius, stoiciaeth, Epictetus, ymarfer y meddwl, heddwch meddyliol, cysgu’n iawn a llawer mwy.
More Episodes
Ysbeidiau-Heulog by Llwyd Owen
Published 03/28/21
Published 03/28/21
*CAFODD Y BENNOD HON EI RECORDIO O BELL, FELLY MADDEUWCH Y SYNAU CEFNDIROL PLIS!* Orig hyfryd yng nghwmni’r awdur slash sgriptiwr slash academydd slash cantor slash dramodydd slash cynhyrchydd ffilm a theledu, Fflur Dafydd. Pynciau llosg: ffeindio Y cyfrwng, dilysrwydd yr awdur, cydbwysedd...
Published 12/13/20