“Dim ond yn ddiweddar wnes i ffeindio’r podlediad gwych yma…..3 neu 4 mlynedd yn rhy hwyr, yn anffodus. Cytuno gyda phob gair Sionmun. Mae hyn yn bodlediad heb ei ail. Mor naturiol, mor “real”, mor wahanol i’r delwedd “stuffy” o bethau Cymraeg yn y cyfryngau a mor, mor ddoniol. Mwy nag unwaith chwerthinais i’n uchel pan yn gwrando wrth fynd am dro. Awkward looks all round!
Y clod mwyaf allai roi yw nag oes diddordeb ‘da fi o gwbl yn y byd celfyddydau…..boed y theatr, teledu, cerddoriaeth, barddoniaeth neu awduron. Ond wnes i llwyr joio bron bob un pennod, er i fi ond nabod ambell un gwestai.
Personal highlight fi oedd y mwnciod ym Mhenscynor (absolute gold!) ond shout-out hefyd i Pritti Patel 😀”
Barry Mutuel via Apple Podcasts ·
Great Britain ·
07/29/23