Fi angen cysgu!
Listen now
Description
“Ma’r babi’n cyrraedd a chi’n ffeindio bo’ chi ffili neud dim byd o hanfodion bywyd - fel mynd i’r tŷ bach, bwyta, cysgu..!” Ydy’r cyfnod cyntaf yna ar ôl cael babi wir yn ddiflas, yn undonog ac yn unig? Beth Jones a Siôn Tomos Owen sy’n trafod hunllefau’r wythnosau cyntaf ar ôl cael babi gyda’u gwestai Gwennan Evans. Mae Gwennan yn awdur ac yn fardd sydd yn disgwyl ei hail blentyn. Er gwaetha’r diffyg cwsg, mae’n dal i chwerthin - a hyd yn oed wedi rhoi cynnig ar stand yp.
More Episodes
Gall blant reoli dau beth - yr hyn sy'n mynd mewn i'w cegau a'r hyn sy'n dod allan o'u cegau. Sawl gair newydd sydd yng ngeirfa eich plant chi yr wythnos yma? A faint o lysiau maen nhw wedi eu bwyta? Y bardd Casia Wiliam sy'n ymuno â Beth a Siôn i drafod Sam Tân, sos coch a mwsh oren. Hefyd,...
Published 02/20/20
Published 02/20/20
“Yn yr hen ddyddie, bydde dads byth yn mynd i softplay...” Y digrifwr Dan Thomas yw gwestai Siôn a Beth wrth iddyn nhw gymharu eu sgiliau rhianta nhw gyda rhai eu rhieni. Hefyd, sut orau i ddelio gyda temper tantrums a meltdowns. Aaaghhh!
Published 02/13/20