Episodes
T Glynne Davies yn holi rhai o'r Cymry ddilynodd y Palmant Aur I Lundain i werthu llaeth.
Published 03/24/19
Published 03/24/19
Gwyn Llewelyn ac eraill yn cofio ugain mlynedd ers adeiladu Mur Berlin.
Published 03/17/19
Teulu a ffrindiau yn cofio'r llenor D.J. Williams
Published 03/10/19
Annest Wiliam yn holi'r cwestiwn Pwy Oedd Dewi Sant? Cyfraniadau gan yr hanesydd Syr Glanmor Williams, y Tra Pharchedig Lawrence Bowen, Mari Evans a rhai o blant Aelwyd Aberafan.
Published 03/03/19
Richard Rees yn edrych ar hanes boddi pentref Ynysyfelin sydd bellach o dan ddyfroedd Cronfa Ddŵr Llwynonn
Published 02/24/19
Ronnie Williams yn mynd a ni adre' i Gefneithin nôl yn 1988.
Published 02/17/19
Bryn Thomas yn holi’r perchennog Siop Lyfrau a’r fenyw anhygoel Beti Rhys am ei theithiau o gwmpas y Byd
Published 02/10/19
Y Parchedig Meic Parri yn cadeirio panel yn nhref Slough nôl yn 1964 a’r panel yw Hafina Clwyd, Yr Athro Emrys Jones a’r Parch Alwyn Charles.
Published 02/03/19
Meredydd Evans yn cyflwyno dwy sgwrs, un rhwng Tom Evans a Mrs Elizabeth Edwards a arferai weithio yng ngegin Plas yr Hafod yng Nghwm Ystwyth a sgwrs arall lle mae Harri Parri yn holi John Edwards, dyn wnaeth gyfarfod a’r lleidr Coch Bach y Bala
Published 01/27/19
Lynn Davies sydd yn teithio i Lanfyllin ac yn cwrdd a’r trigolion i gael hanes, hiwmor a straeon ysbryd yr ardal.
Published 01/21/19
T Glynne Davies yn cyflwyno rhaglen am agweddau croesdoriad o Gymry tuag at yr iaith Gymraeg dros hanner can mlynedd yn ôl. Beth sydd wedi newid?
Published 01/14/19
Dyma raglen am un o feirdd mwya cynhyrchiol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd yn gyfrifol am gyfansoddi geiriau rhai o’n caneuon mwya cofiadwy fel cenedl.
Published 01/10/19