Episodes
Yn ei bodlediad olaf o Gamerŵn, mae'r bardd Ifor ap Glyn, yn mwynhau matango neu 'win' o'r balmwydden, ac yn lawnsio llyfr yng nghanol power cut yng nghwmni'r beirdd Mike Jenkins ac Eric Ngalle Charles.
Published 04/29/19
Published 04/29/19
Mae'r bardd Ifor ap Glyn yn darganfod cysylltiad rhwng Bae Colwyn a Chamerŵn, ac hefyd bod bus pass Merthyr yn dderbyniol fel 'i-d' gan fyddin y wlad. Ceir cyflwyniad i hanes cythryblus Camerŵn a cheir cerdd o fawl i'r cyflwynydd radio Charles Tembei.
Published 04/27/19
Mae Ifor ap Glyn, yn cyrraedd y brifddinas Yaounde i hyrwyddo cysylltiadau llenyddol rhwng Cymru a Chamerŵn, yng nghwmni'r beirdd Mike Jenkins ac Eric Ngalle Charles. Cawn gyflwyniad i'r iaith Bakweri, a bwyta malwod - a cheir cerddi i ddiolch am grys ac am ocadas.
Published 04/25/19
Yn ei bodlediad olaf o Tsieina, mae'r bardd Ifor ap Glyn yn cael gwahoddiad i wledda hefo Maer Chengdu ac yn profi danteithion hefo enwau od, wrth ddysgu am arferion yfed y Tsieiniaid! Mae'n perfformio yn gyhoeddus i gyfeiliant ffidil, ac yn llunio cerdd am hen bobl yn gwneud ta'i chi yng nghanol canolfan siopa.
Published 04/23/19
Mae'r bardd Ifor ap Glyn, yn ymweld â'r opera yn Chengdu ac yn profi rhyfeddodau 'newid wyneb', a fferins sidan. Mae'n ymweld a chartref y bardd Du Fu o'r wythfed ganrif ac yn rhoi cynnig ar gyfieithu'i waith i'r Gymraeg.
Published 04/11/19
Mae'r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, yn cyrraedd Chengdu ar gyfer gŵyl farddoniaeth yng nghwmni 100 o feirdd o bedwar ban byd. Mae'n ymweld â chanolfan fridio pandas fwya llwyddiannus y byd ac yn dysgu am arferion blwyddyn newydd y Tsieiniaid.
Published 04/09/19
Yn ei bodlediad olaf o Lithwania, mae'r bardd Ifor ap Glyn yn darganfod mai dyma'r wlad olaf yn Ewrop i gefnu ar baganiaeth. Mae'n profi pleserau cael bath mewn mwd, yn cyfarfod â siaradwr Cymraeg o Kiev ac yn sgwennu cerdd i ddathlu hyfrydwch yr hydref yng nghoedwigoedd Lithwania.
Published 04/06/19
Mae'r bardd Ifor ap Glyn, yn symud i'r dref faddon Druskininkai sydd wedi bod yn rhan o 6 gwlad wahanol yn y can mlynedd diwethaf. Mae'n ymweld ag ysgol leol a chawn gerdd am ffynnon leol sy'n canu.
Published 04/03/19
Mae'r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, yn cyrraedd Vilnius ar gyfer gŵyl farddoniaeth ryngwladol; mae'n helpu lansio antholeg ac yn cael ei gyfweld ar y gyfres gelf Kultūros Diena, ac yn llunio cerdd am fod grisiau ei westy ddim yn ffitio!
Published 04/01/19