Episodes
Pan mae Siani’r crocodeil yn brifo ei choes, mae’r anifeiliad eraill i gyd ofn ei helpu, pawb heblaw Ping. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Llinos Thomas Davies.
Published 04/02/24
Published 04/02/24
Mae Seimon yn hiraethu am ei nain, nes ei fod yn darganfod cragen arbennig ar y traeth sy’n newid popeth. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Sioned Erin Hughes.
Published 03/19/24
Môr leidr sy’n caru siocled yw Mori, ac un diwrnod mae’n darganfod trysor arbennig ar y traeth yn Aberystwyth. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Anni Llŷn.
Published 03/05/24
Mae pawb ond Ifan yn gallu dweud yr amser, ond mae Tic Toc, ceidwad amser, wedi dod i’w helpu. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Miriam Sautin.
Published 02/13/24
Wrth fynd am dro un bore yn yr eira mae Nel yn gweld rhywbeth hollol anhygoel. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Published 01/30/24
Mae Nel yn breuddwydio am gael gweld enfys, ac o’r diwedd mae ei breuddwyd yn dod yn wir. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Published 01/09/24
Yn ystod amser chwarae yn yr ysgol mae’r plant yn dod o hyd i wylan fach ar yr iard. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mirain Fflur.
Published 12/19/23
Dydy Harri ddim yn hoffi mynd i gael torri ei wallt, ond y tro hwn mae o’n cael mynd a Cleif efo fo. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Published 12/05/23
Mae Siwsi ar fin dathlu ei phenblwydd yn bum mlwydd oed ac yn gobeithio cael anrheg anghyffredin iawn. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Rhiannon Lloyd Williams
Published 11/14/23
Mae dant Anest yn dechrau dod yn rhydd ond yn gwrthod dod allan, mae hi angen help! Rebecca Harries sydd yn darllen stori gan Leo Drayton.
Published 10/31/23
Mae pawb yn barod ac yn edrych ymlaen at y sioe dalent fawr, pawb heblaw Lewsyn, ond pam? Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Arddun Arwel.
Published 10/10/23
Ebol bach busneslyd sy’n ysu i gwrdd â’r ceffyl mawr yn y cae drws nesaf yw Idris. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Mel Owen.
Published 09/26/23
Mae Eryl y llew yn hapus iawn helpu edrych ar ôl Meilyr y mwnci, ond mae Meilyr yn dipyn o lond llaw. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Anona Thomas.
Published 09/05/23
Mae Eryl y llew am goginio gwledd blasus i’w ffrindiau, ond dydy e erioed wedi coginio o’r blaen! Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Anona Thomas.
Published 07/18/23
Mae Cadi wrth ei bodd yn mynd am dro gyda’i pherchennog Siencyn, ond heddiw mae ei injan yn sâl. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Twm Ebbsworth.
Published 07/04/23
Noson fawr y gyngerdd ac mae pawb yn barod am sioe wych, wel pawb heblaw Ffion y Brif Ffidil. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Chris Harris.
Published 06/13/23
Dewch i wrando ar stori am ddafad ddireidus yn mynd am drip ar fws i’r traeth. Sion Pritchard sy'n adrodd stori gan Casia Wiliam.
Published 05/30/23
Dewch i wrando ar stori am ddau ffrind, NiNi a Cwlffyn, yn golchi car eu Nain. Sion Pritchard sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Published 05/16/23
Dewch i wrando ar stori am ddau ffrind, NiNi a Cwlffyn, yn chwarae cuddio gyda’u Nain. Sion Pritchard sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Published 05/09/23
Dewch i wrando ar stori am NiNi a Cwlffyn. Mae NiNi yn fach a Cwlffyn yn gawr, ac mae'r ddau yn ffrindiau mawr. Sion Pritchard sy'n darllen stori gan Sioned Wyn Roberts.
Published 05/02/23
Pan mae Ola’n cymryd un llwy de o fêl cyn mynd i’r gwely, mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Sioned Erin Hughes.
Published 04/04/23
Mae Cleo’r ci a’i pherchennog Cadi yn ffrindiau mawr iawn, ac mae gan Cadi syrpreis arbennig i Cleo. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Melanie Owen.
Published 03/13/23
Mae pawb yn yr ysgol yn hoffi gwallt Llion, ac mae gan Mam Llion stori ddifyr amdano. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Melanie Owen
Published 03/05/23
Dewch i wrando ar stori am Elsi a’r anrheg gorau erioed, pren mesur. Rhian Blythe sy'n adrodd stori gan Anni Llyn.
Published 01/22/23